Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Environment and Sustainability Committee              

 

 

 

 

Aelodau Senedd Ewrop sy’n cynrychioli Cymru

Senedd Ewrop

60 Rue Wiertz

B-1047 Brwsel

Gwlad Belg

 

 

 

 

 

 

 

 

13 Ionawr 2015

 

Ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i'r rheoliad arfaethedig ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig


Ysgrifennaf atoch i dynnu eich sylw at y gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig. Hoffwn nodi rhai canfyddiadau cychwynnol sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid yng Nghymru. 

Mae'r Pwyllgor yn gwbl gefnogol o nodau'r Comisiwn Ewropeaidd i wella hyder defnyddwyr, lleihau biwrocratiaeth a chefnogi twf y sector organig ledled yr UE. Fodd bynnag, rydym yn pryderu'n fawr am oblygiadau ymarferol y rheoliad fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd. Rydym yn pryderu y gallai'r cynigion annog ffermwyr yng Nghymru i beidio â mentro i'r sector organig neu arwain y rhai sydd eisoes yn ffermio'n organig i ymadael â'r sector.

Rydym wedi nodi pedwar maes o bryder yn ein gwaith cychwynnol, ac yn ein barn ni, dylid newid testun y rheoliad drafft i fynd i'r afael â'r rhain:

-   Effeithiau gwaharddiad ar ffermio cymysg, o gofio nifer y ffermydd sy'n ffermio'n organig ac yn anorganig ar hyn o bryd;

-   yr effaith o atal ffermwyr organig rhag defnyddio hadau confensiynol a stoc bridio anorganig ar ôl 2021;

-   canlyniadau anfwriadol rhai o'r safonau lles anifeiliaid arfaethedig fel digornio a thorri cynffonnau; a

-   y cynigion ar ddidystysgrifo oherwydd gweddillion anorganig sydd, yn ein barn ni, yn groes i'r egwyddor mai'r 'llygrwr sy'n talu'.

At hynny, rydym yn pryderu am ddileu'r eithriad gwerthu, manylion y cynigion ynghylch archwiliadau sy'n seiliedig ar risg a'r gofynion rhanbarthol o ran bwyd. Mae'r papur atodedig yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y materion hyn a gwybodaeth fanylach am ein prif bryderon.

Byddem yn croesawu'n fawr eich cefnogaeth wrth hyrwyddo'r pwyntiau hyn gyda'ch cydweithwyr yn Senedd Ewrop, gan gynnwys rapporteurs a dirprwy rapporteurs.

Casglwyd tystiolaeth gan sefydliadau ffermio, ardystwyr organig a chanolfannau academaidd blaenllaw sy'n arbenigo yn y maes polisi hwn. Mae rhagor o wybodaeth a chopïau o bapurau tystiolaeth a gyflwynwyd ar gael ar-lein yn: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?ID=141

I gloi, mae'r Pwyllgor a'i randdeiliaid yn siomedig bod rhai o fanylion pwysicaf y cynnig hwn wedi'u gadael i'w trin drwy Ddeddfau Dirprwyedig a Gweithredu. Mae hynny wedi ei gwneud yn anodd asesu eu heffaith yn llawn. Rydym wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Hogan ynghylch y mater hwn yn ogystal â'n pryderon am safon yr asesiad effaith.

Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd yn y maes hwn gan gynnwys trafodaethau hollbwysig yn Senedd Ewrop. Edrychwn ymlaen at gydweithio ymhellach â chi yng nghyswllt y materion hyn, a gobeithio y bydd y wybodaeth yn y llythyr hwn yn ddefnyddiol ichi.

Yn gywir,

 

Description: P:\OPO\Committees\Committees (2011-2016)\Env & Sustainability\Correspondence\Chair's correspondence\Alun Ffred Jones sig.jpg

 

Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Canfyddiadau allweddol Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffermydd cymysg

1.         Mae pryder difrifol ymhlith rhanddeiliaid yng Nghymru am effaith y cynigion i'w gwneud yn ofynnol bod 100% o ddaliad yn organig. Mae ffigurau a gyhoeddwyd ynghylch y sector yn y DU yn dangos bod 25% o ffermydd organig yn cynnwys cyfuniad o unedau confensiynol ac organig. Os caiff ei wneud yn ofynnol bod daliadau cyfan yn organig, mae'r rhanddeiliaid yn pryderu y gallai hynny annog ffermwyr newydd i beidio â mentro i'r sector ac annog y rhai sydd eisoes yn ffermio'n organig i ddychwelyd i ffermio'n gonfensiynol, oherwydd y gall unedau confensiynol sicrhau incwm pwysig i ffermwyr yn ystod y broses o drawsnewid y fferm.

2.         Rydym yn deall dymuniad y Comisiwn i leihau diffyg cydymffurfiaeth a gwella hyder defnyddwyr, ond mae'r dystiolaeth a gawsom ni yn awgrymu y gallai'r cynnig leihau tryloywder yn anfwriadol.  Ar ffermydd cymysg, ar hyn o bryd, gall cyrff ardystio yn y DU archwilio'r unedau organig a'r rhai anorganig er mwyn sicrhau bod prosesau ar y fferm yn lleihau'r risg o halogi. Os caiff ffermydd eu rhannu mewn modd artiffisial er mwyn parhau i wneud y ddau fath o ffermio, ni fydd cyrff ardystio yn gallu archwilio'r unedau anorganig mwyach er mwyn sicrhau y dilynir yr arfer gorau. 

Byddem yn croesawu diwygio'r cynnig i sicrhau y gall ffermydd barhau i weithredu unedau organig ac anorganig, ar yr amod eu bod wedi'u harchwilio a'u hardystio'n briodol.

 

 

 
 

 

 

 


Hadau organig a stoc bridio

3.         Rydym yn gwbl gefnogol o nod y Comisiwn Ewropeaidd i gynyddu faint o hadau organig a stoc bridio sydd ar gael ar y farchnad. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod dileu'r rhanddirymiadau hyn erbyn 2021 yn adlewyrchu'r gofynion ymarferol sydd ynghlwm wrth gynhyrchu ar lefel fferm.  Roedd y rhanddeiliaid yng Nghymru o'r farn unfryd bod yr amserlen a gynigir ar hyn o bryd yn y rheoliadau yn annigonol.

Byddem yn croesawu diwygio'r cynnig i sicrhau bod yr esemptiadau pwysig hyn yn parhau pan nad oes dewis amgen organig ar gael.

 

 
 

 

 

 


Esemptiad i Fanwerthwyr

4.         Rydym yn pryderu ynghylch y cynnig i'w gwneud yn ofynnol bod manwerthwyr yn destun prosesau ardystio. Yng Nghymru, efallai mai dim ond un neu ddau gynnyrch organig y bydd rhai manwerthwyr bach yn eu stocio, ac efallai y byddant yn rhoi'r gorau i'w gwerthu rhag wynebu'r costau archwilio. Yn ôl amcangyfrif y Bwrdd Masnach Organig, mae gwerthiant organig drwy fanwerthwyr bach yn cyfrif am £10 miliwn yr wythnos. Gallai colli'r gwerthiant hwnnw gael effaith sylweddol ar ffermwyr a thyfwyr organig.

Byddem yn cefnogi diwygio'r cynigion i sicrhau na chaiff yr esemptiad hwn ei ddileu ar gyfer manwerthwyr bach a chanolig.

 

 

 
 

 

 

 


Lles Anifeiliaid

5.         Rydym yn cytuno â'r Comisiwn Ewropeaidd bod safonau uchel o ran lles anifeiliaid yn bwysig, ond rydym yn pryderu bod y cynigion fel y'u drafftiwyd ar hyn o bryd yn anghyson a gallent wahardd arferion sydd o fudd i les anifeiliaid yn anfwriadol, er enghraifft digornio gwartheg a thorri cynffonnau defaid. Oherwydd y lefel o dda byw a gynhyrchir yng Nghymru, mae'n hanfodol eu digornio i sicrhau nad yw'r gwartheg yn achosi niwed i'w gilydd neu'r bobl sy'n eu trafod. Mae'r systemau ar gyfer trafod gwartheg a ddefnyddir ar ffermydd yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r UE wedi'u cynllunio o fewn cyd-destun sy'n caniatáu digornio neu ddadimpio mewn ffordd nad yw'n greulon. Os caiff ffermydd eu hatal rhag gwneud hyn dros gyfnod byr, gallai arwain at effeithiau ariannol sylweddol i ffermwyr organig. Nid yw'r effeithiau hyn wedi'u hasesu'n ddigonol yn yr Asesiad Effaith, yn ein barn ni.

Credwn yn gryf, pe bai rheolau o'r fath yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol, byddai angen asesiad effaith priodol, rheolau trosglwyddo clir a mesurau cymorth cryf drwy'r Cynllun Gweithredu a'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

 

 
 

 

 

 

 


Didystysgrifo

6.         Rydym yn cefnogi'n gryf hawl defnyddwyr sy'n prynu cynnyrch organig i fod yn gwbl hyderus ynddynt. Fodd bynnag, rydym yn pryderu bod y cynnig i bennu lefel drothwy ar gyfer gweddillion anorganig wedi'i orsymleiddio, a'i fod yn groes i egwyddor yr UE mai'r 'llygrwr sy'n talu'.  Ar hyn o bryd, os canfyddir gweddillion anorganig mewn cynnyrch, cynhelir archwiliad i ddod o hyd i ffynhonnell yr halogiad cyn cosbi cynhyrchydd.

7.         Mae llawer o achosion lle gallai'r croeshalogiad fod wedi digwydd heb fod dim bai ar y cynhyrchydd. Byddai'r cynnig y câi'r cynhyrchwyr hyn eu didystysgrifo yn awtomatig yn mynd yn groes i'r egwyddor mai'r 'llygrwr sy'n talu'. Mae rhanddeiliaid yng Nghymru wedi dweud wrthym y gallai hyn, o bosibl, olygu bod rhai o'n cynhyrchwyr organig mwyaf profiadol yn cael eu didystysgrifo am bethau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth. Nodwn y byddai'r Aelod-wladwriaethau yn gallu darparu iawndal ariannol i'r ffermwyr hyn, ond na fyddai hynny'n atal cynhyrchwyr profiadol rhag gadael y diwydiant. Er y gallai fod angen gwelliannau pellach i'r gweithdrefnau arolygu i sicrhau cysondeb ar draws yr UE, nid yw'r cynigion presennol yn gymesur, yn ein barn ni.

Byddem yn cefnogi'n gryf ddiwygio'r cynigion i ddileu'r ddarpariaeth hon o'r rheoliadau drafft.

 

 
 

 

 


Arolygiadau

8.         Rydym wedi clywed safbwyntiau croes ar gynnig y Comisiwn Ewropeaidd i symud tuag at ddull arolygu ac ardystio sy'n seiliedig ar risg. Dywedodd sefydliadau ffermio wrthym fod cynhyrchwyr yn croesawu arolygon blynyddol fel ffordd o wella hyder defnyddwyr fel cyfle i gael cyngor gan y cyrff ardystio. Dywedodd arbenigwyr eraill wrthym nad oeddent yn gwrthwynebu'r cynnig mewn egwyddor ond bod angen llawer yn fwy o fanylion arnynt gan y Comisiwn Ewropeaidd am sut y byddai hyn yn gweithio'n ymarferol. Rydym yn pryderu nad oes digon o fanylion wedi'u rhoi gan y Comisiwn Ewropeaidd i randdeiliaid am sut y byddai dull arolygu sy'n seiliedig ar risg yn gweithio.

Byddem yn croesawu unrhyw gamau gan Senedd Ewrop i gael eglurhad manylach o'r elfen hon o'r cynigion.

 

 
 

 

 


Bwyd rhanbarthol

9.         Mae'r sector organig Cymreig yn deall ac yn derbyn yr egwyddor bod ffermydd organig yn cynhyrchu bwyd i'w da byw ar eu daliadau eu hunain, neu o ffynonellau cyfagos. Fodd bynnag, o ystyried ein hamodau o ran hinsawdd, pridd a daearyddiaeth, nid yw'n bosibl i ffermydd organig Cymru gynhyrchu neu gyrchu eu holl fwyd yng Nghymru, neu hyd yn oed yn y DU. Felly, mae gennym bryderon am y cynnig i'w gwneud yn ofynnol bod canran uwch o fwyd yn cael ei chyflenwi o fewn y 'rhanbarth' y mae fferm yn perthyn iddo, gan nad yw'r cynnig yn nodi'n glir sut y mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn bwriadu diffinio'r term 'rhanbarth'.

Byddem yn croesawu unrhyw gamau gan Senedd Ewrop i nodi manylion yr elfen hon o'r cynnig yn glir.